SL(6)175 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Yn aml, mae landlordiaid yn gofyn i denantiaid dalu blaendal fel sicrwydd yn achos, er enghraifft, unrhyw niwed posibl i'r eiddo a achosir gan y tenant. Fodd bynnag, nid yw'r blaendal yn eiddo i'r landlord ac felly rhaid diogelu unrhyw flaendal a delir yn briodol. Rhaid i'r landlord ddiogelu pob blaendal drwy gynllun blaendal awdurdodedig.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ddarparu gwybodaeth benodol am y cynllun blaendaliadau i denantiaid yn ysgrifenedig, gan gynnwys:

§  manylion gweinyddwr y cynllun megis enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost;

§  ble mae eu blaendal yn cael ei gadw;

§  sut y caiff ei ad-dalu ar ddiwedd y contract;

§  pa ddidyniadau y gellir eu cymryd ohono yn rhesymol gan landlord i gwmpasu, er enghraifft, rent heb ei dalu neu niwed; ac

§  y weithdrefn ar gyfer datrys unrhyw anghydfodau a all godi rhwng y ddau barti mewn perthynas â'r blaendal.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 3(1)(b) yn cyfeirio at “unrhyw wybodaeth a gyflenwir gan weinyddwr y cynllun i’r landlord sy’n egluro’r modd y gweithredir adrannau 45 i 47(3) o’r Ddeddf ac Atodlen 5 iddi”. Fodd bynnag, nid yw’n glir a fydd ar weinyddwyr y cynllun ddyletswydd i gyflenwi gwybodaeth o’r fath i landlordiaid yn y lle cyntaf.

Byddem yn ddiolchgar am eglurder ynghylch a fydd gan weinyddwyr y cynllun ddyletswydd o'r fath.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliadau 3(1)(c) a 3(1)(e) yn cyfeirio at swm mewn cysylltiad â blaendal sy’n cael “ei dalu neu ei ad-dalu” i ddeiliaid y contract. Fodd bynnag, yng nghyd-destun blaendaliadau, nid yw’n glir beth yw’r gwahaniaeth rhwng “talu” symiau i ddeiliaid contract ac “ad-dalu” symiau i ddeiliaid contract.

A yw'n dibynnu ar bwy a dalodd y blaendal yn y lle cyntaf, h.y.

§  os talwyd y blaendal gan ddeiliad y contract, caiff ei ad-dalu i ddeiliad y contract, ond

§  os talwyd y blaendal gan rywun ar ran deiliad y contract, caiff y blaendal ei dalu (nid ei ad-dalu) i ddeiliad y contract?

Mae Deddf 2016 yn cyfeirio’n benodol at flaendal a delir gan ddeiliad y contract a blaendal a delir gan rywun ar ran deiliad y contract, ond nid yw’r gwahaniaeth hwnnw’n glir yn y Rheoliadau.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

23 Mawrth 2022